The Dispensing Doctors’ Association

Low Hagg Farm

Starfitts Lane

Kirkbymoorside

North Yorkshire

YO62 7JF

Ffôn: 0751 430835 Ffacs 01751 430836

E-bost: Office@dispensingdoctor.org

 
!DDALOGO
 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

HSC(4)-09-11 papur 2

 

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Gymdeithas y Meddygon Fferyllol

 

 

Rydym yn falch o gyflwyno’r ymateb canlynol i’r ymchwiliad hwn:

 

Mae Cymdeithas y Meddygon Fferyllol (DDA) yn cynrychioli buddiannau’r 1500+ o bractisiau fferyllol yn y DU ac yn hybu rhagoriaeth mewn rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn er lles y 4 miliwn o gleifion fferyllol sy’n cael eu gwasanaethu gan y practisiau hynny. Mae tua 85% o bractisiau fferyllol ag aelodaeth gyswllt o’r Gymdeithas.

Mae 89 o bractisiau fferyllol yng Nghymru yn darparu gwasanaethau fferyllol i 200,011 o’u 530488 o gleifion. Gan hynny, mae gan bron 18% o bractisiau yng Nghymru ganiatâd fferyllol amlinellol (neu ei gyfwerth) ac maent yn dosbarthu 6.75% o’r holl eitemau presgripsiwn. (Mae’r ffigurau ar gyfer Lloegr yn debyg: y naill yn 16% a’r llall yn 7%).

Mae’n achos pryder i’r Gymdeithas bod datblygiad diweddar gwasanaethau fferyllol cymunedol wedi tueddu i ganolbwyntio ar y gwasanaethau hynny a ddarperir gan fferyllwyr mewn fferyllfeydd yn unig ac wedi eithrio bron yn gyfan gwbl y gwasanaethau hynny a ddarperir gan bractisiau fferyllol i’w cleifion yng nghefn gwlad.

Mae perygl, pe bai rhai gwasanaethau ond ar gael gan fferyllfeydd yn y dyfodol, y bydd dewis wedi ei leihau i’r claf yng nghefn gwlad a gall y pellter i’w fferyllfa agosaf nadu mynediad i’r gwasanaeth yn gyfan gwbl.

Efallai nad oedd y refeniw y mae practisiau yn ei dderbyn o ddarparu gwasanaethau fferyllol erioed wedi ei gynllunio i noddi darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, ond y gwir plaen amdani yn y rhan fwyaf o achosion yw ei fod yn gwneud hynny.

Gan hynny, pa bryd bynnag y symudir unrhyw wasanaethau a ddarperir oddi wrth y meddyg i’r fferyllydd, (neu i fod yn fwy cywir o’r feddygfa i’r fferyllfa) rhaid cymryd i ystyriaeth yr effaith y bydd symud o’r fath yn ei gael ar wasanaethau meddygol ehangach cyfredol os nad yw cleifion yn mynd i fod o dan anfantais.

Er ein bod o blaid integreiddio gwasanaethau fferyllol a meddygol ble bynnag y bo modd er mwyn mwyhau budd a hwylustod i’r claf, cydnabyddwn nad yw’r fframwaith sy’n rheoli ein gwaith yn ei gwneud hi’n hawdd i ni gyflawni hyn.

Mae’r DDA yn mynegi ei siom o beidio â bod yn rhan o’r trafodaethau hyn ar ddarparu gwasanaethau fferyllol yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf a hyderwn y gallwn fel rhanddeiliaid gael ein cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Dr David Baker

Prif Weithredwr                                                               21ain Medi 2011